Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser: Lansio’r ymchwiliad canser ac anghydraddoldebau a’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

Manylion allweddol

·         Beth: Grŵp Trawsbleidiol ar Ganser, lansio ymchwiliad canser ac anghydraddoldebau a’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

·         Pryd: 13.00 - 14.00, dydd Iau 27 Hydref 2022 

·         Ble:  Cyfarfod ar Teams.  

·         Diben y sesiwn: Lansio'r ymchwiliad i anghydraddoldebau canser ac ethol cadeirydd ac ysgrifenyddiaeth newydd ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol. 

Pwnc 

Nod y sesiwn fydd tynnu sylw at effaith anghydraddoldebau canser ar unigolion yng Nghymru a lansio’r ymchwiliad i sut maen nhw'n effeithio ar bobl. Bydd y siaradwyr Steffan Evans o Sefydliad Bevan a Lowri Jackson o Goleg Brenhinol y Meddygon yn siarad ar effaith yr anghydraddoldebau hyn a sut maent yn amlygu mewn gwasanaethau canser.

 

Agenda

1.      Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 13.00 - 13.10 

a.      Ethol Cadeirydd 

b.      Ethol Ysgrifennydd 

c.       Cytuno ar yr Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol 

3.      Agor Ymchwiliad y Grŵp Trawsbleidiol i anghydraddoldebau 13.10-13.50 

a.      Cyflwyniad gan Steffan Evans, Sefydliad Bevan yn amlinellu anghydraddoldebau yng Nghymru. 

b.      Cyflwyniad gan Lowri Jackson, Coleg Brenhinol y Meddygon yn amlinellu anghydraddoldebau yng Nghymru.

c.       Cwestiynau gan yr aelodau

4.      Unrhyw fater arall 13.50-14.00 

Yn bresennol

1.      Katie Till (Ymchwil Canser y DU)

2.      Shaun Walsh (Ymchwil Canser y DU)

3.      Megan Cole (Ymchwil Canser y DU)

4.      Steffan Evans (Sefydliad Bevan)

5.      Lowri Jackson (Coleg Brenhinol y Meddygon)

6.      David Rees AS

7.      Joel James AS

8.      Andy Glyde (Ymchwil Canser y DU)

9.      Joan Jeyes

10.  Madelaine Phillips

11.  Lisa Williams

12.  Anna Lewis

13.  Greg Pycroft

14.  Hannah Wright

15.  Stewart O’Callaghan

16.  Glenn Page (Macmillan)

17.  Emma Stevenson

18.  Stephanie Grimshaw

19.  Ryland Doyle

20.  Mike Hedges AS  

21.  Joe Kirwin

22.  Thomas Brayford

23.  Sian Phillips

24.  Jemima Reynolds

25.  Sinan Eccles

26.  Rhun ap Iorwerth AS

27.  Joseph Woollcott

28.  Katherine Brain

29.  Lowri Griffiths (Tenovus)

30.  Tom Crosby (Ymddiriedolaeth Felindre)

31.  Mark Isherwood AS

32.  Jon Antoniazzi

33.  Jenny-Anne Bishop

34.  Louise Carrington

35.  Jayne Caparros

36.  Maggie Clark

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

David Rees AS – Cafodd ei ethol yn gadeirydd ar ôl cael enwebiadau gan Mike Hedges AS a Rhun ap Iorwerth AS

Megan Cole – Cafodd ei ethol fel ysgrifennydd ar ôl cael ei henwebu gan David Rees AS

Cafodd Adroddiad Ariannol yn cael ei ddosbarthu i aelodau’r Grŵp Trawsbleidiol a bydd yn cael ei anfon i’r Senedd ar ôl y cyfarfod.

Lansio Ymchwiliad

Amlinellodd David Rees ei fod yn awyddus i’r ymchwiliad edrych ar dystiolaeth i dynnu sylw at brofiad y claf o ganser mewn cymunedau penodol. Gyda’r ymchwiliad yn canolbwyntio ar dlodi ac effeithiau hyn ar drin canser a mynediad at wasanaethau.

Yna, cyflwynodd y siaradwyr gwadd, sef Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan a Lowri Jackson o Goleg Brenhinol y Meddygon.

Cyflwyniad gan Dr Steffan Evans – Sefydliad Bevan

Roedd sgwrs Steffan yn canolbwyntio ar ddeall tlodi, yr argyfwng costau byw a’r effeithiau ar iechyd.

Dechreuodd drwy drafod tlodi a’i effeithiau allanol ar iechyd. Codwyd materion fel system budd-daliadau, tai a chostau byw a’u cysylltu â gofal canser.

Canolbwyntiodd hefyd ar gyfansoddiad tlodi yng Nghymru gan amlygu bod plant, rhieni sengl, pobl anabl a rhentwyr yn fwy tueddol o fyw mewn tlodi.

Cyfeiriodd Steffan at y gwaith sy’n cael ei wneud ar yr argyfwng costau byw yn Sefydliad Bevan gyda data o fis Gorffennaf yn dangos nad oes gan 13% o bobl mewn cartrefi yng Nghymru ddigon o arian i dalu am y pethau sylfaenol sydd eu hangen i oroesi.

Yna tynnodd sylw at sut mae’r meysydd hyn yn croestorri, gan nodi bod disgwyliad oes a disgwyliad oes iach yn is yng Nghymru. Dywedodd dros 50% o bobl fod eu sefyllfa ariannol yn effeithio ar eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl.

Cwestiynau

Mynegodd Mike Hedges AS bryderon am oriau gwaith afreolaidd sy’n effeithio ar iechyd a sefyllfa ariannol unigolion. Soniodd hefyd am unigolion yn gorfod talu taliadau sefydlog ar ddiwrnodau nad ydynt yn defnyddio unrhyw bŵer.

Ymatebodd Steffan drwy ailadrodd y pwyntiau hyn a chyfeirio at ystadegau pellach i atgyfnerthu'r mater.

Tynnodd Mark Isherwood AS sylw at yr ystadegau amseroedd aros canser a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf a dywedodd, er ei bod hi’n ymddangos bod rhai meysydd yn perfformio’n well mewn ystadegau canser, mae ffyniant yn chwarae rhan yn y gwasanaethau a dderbynnir ac mae hyn yn fater cymhleth.

Siaradodd Tom Crosby (Felindre) am yr amrywiad mewn data a’r canlyniadau gwirioneddol pan ystyrir anghydraddoldebau. Awgrymodd fod canlyniadau iechyd yn tueddu i fod yn well mewn ardaloedd llai tlawd er bod byrddau iechyd yn tanberfformio.

Cyflwyniad gan Lowri Jackson – Coleg Brenhinol y Meddygon

Amlinellodd Lowri waith yr adroddiad “Gwylio’r Bwlch” a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf i archwilio effaith yr argyfwng costau byw a’r cynnydd mewn anghydraddoldebau yng Nghymru.

Trafododd Lowri yr angen am gynllun traws-lywodraethol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Cyfeiriodd at dystiolaeth o’r adroddiad a oedd yn awgrymu bod angen i bob adran o Lywodraeth Cymru weithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn eu cylchoedd gwaith eu hunain. Cododd bryderon nad oedd gweithredu trawslywodraethol mor effeithiol ag y gallai fod oherwydd diffyg mesur llwyddiant a gwerthuso gwael.

Gwnaeth ganmol Llywodraeth Cymru am gael anghydraddoldebau iechyd ar eu hagenda yn wahanol i Lywodraeth San Steffan.

Yna bu Lowri yn trafod canlyniadau’r adroddiad “Gwylio’r Bwlch” a’i waith i edrych ar weithgarwch y trydydd sector a’r sector cyhoeddus yn datrys anghydraddoldebau. Daeth i’r casgliad nad oedd Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael yr effaith yr oedd llawer wedi’i dymuno. Mae hyn yn golygu bod anghydraddoldebau iechyd fod wedi arwain at wahaniaethau annheg y gellid eu hosgoi mewn canlyniadau a mynediad at ofal iechyd ar draws y boblogaeth. Gwyddom ein bod yn wynebu argyfwng ar gyfer pobl fregus yn ein cymdeithas. Mae tua 20% o iechyd a lles y wlad yn ddibynnol ar wasanaethau gofal iechyd. Felly, nid yw’r GIG yn ymdrin â chanlyniadau yn unig ond hefyd y materion sy’n codi oherwydd tlodi, costau byw, tai gwael a chysylltiadau trafnidiaeth gwael ac ati. Yna, honnodd ei bod yn anodd i’r GIG ymdrin â’r ffactorau allanol hyn pan fo eisoes yn profi problemau allanol yn ymwneud â chapasiti a’i allu i gyflawni ei rôl gofal iechyd.

Awgrymodd wedyn nad yw’r Prif Weinidog yn deall yr angen am ddull trawslywodraethol i godi’r baich ar y GIG. Roedd y Prif Weinidog yn cyfeirio’r tîm at yr ysgrifennydd Iechyd yn hytrach na chydnabod bod gan holl adrannau'r llywodraeth rôl i'w chwarae i leihau anghydraddoldebau iechyd systemig a chodi'r baich ar y GIG. Mae’n bwysig cydnabod bod penderfynyddion cymdeithasol ehangaf iechyd yn cynnwys incwm a sicrwydd ariannol, argaeledd gwaith, addysg, bwyd a diod. Mae’r rhain i gyd yn agweddau y dylai Llywodraeth Cymru geisio eu gwella er mwyn cael effaith sylweddol ar iechyd pobl.

Yna, amlinellodd Lowri sut beth fyddai cynllun llywodraeth trawsadrannol ar waith, gan ddweud mai rôl elusennau nawr yw apelio ar y llywodraeth nid yn unig i ailadrodd yr alwad ond i esbonio pam mae ei angen/eisiau, beth ddylai fod ynddo, beth ddylai llwyddiant edrych fel a’r targedau mesuradwy sydd angen eu cynnwys. Rhaid i’r canlyniadau fod gael amserlen a cherrig milltir rheolaidd. Rhaid cael cyllid i ategu hyn i gyd, a dylai ddod gan y cabinet cyfan a’i arwain gan y Prif Weinidog. Mae hefyd angen dod â gwaith presennol ar anghydraddoldebau at ei gilydd.

Er bod Llywodraeth Cymru yn dangos ymrwymiad i wella anghydraddoldebau iechyd a'n bod ni mewn sefyllfa well na’n cydweithwyr ar draws y ffin, nid yw’r gwaith cyflawni yn digwydd. Mae Cymru yn wynebu bwlch gweithredu dro ar ôl tro. Trafododd sut y gellir gweithio ar hyn trwy weithio ar lefel genedlaethol a rhoi gwaith i dimau llai a sefydliadau sy'n arbenigwyr yn eu hardal leol.

Gorffennodd drwy ailadrodd y dylai anghydraddoldebau iechyd fod yn fusnes i bawb, yn hytrach na dull gweithredu cul heb fawr o ganlyniadau. Er mwyn cael effaith ar fywydau pobl mae’n rhaid i ni wthio heibio'r safbwyntiau cul drwy gael strategaethau iechyd a gofal cymdeithasol o safon sy’n gweithio o wraidd y broblem.

Cwestiynau

Diolchodd Rhun ap Iorwerth AS i Lowri am ei hanerchiad ac ailadroddodd bwysigrwydd mynd i’r afael â’r argyfwng costau byw a thrafododd y gwaith y mae’r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â’i blaid yn ei wneud i fynd i’r afael â’r materion hyn yn y Senedd.

Gofynnodd Shaun Walsh (Ymchwil Canser y DU) i Lowri sut y byddai’r ymchwiliad hwn o werth i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn ei sgwrs.

Cyfeiriodd Lowri at yr angen i’r ymchwiliad fynd ymhellach nag iechyd ei hun ac edrych ar y darlun ehangach. Mae anghydraddoldebau canser yn effeithio ar fwy na chleifion canser yn unig, gyda theuluoedd a ffrindiau, y gymdeithas ehangach yn teimlo baich anghydraddoldebau mewn gwasanaethau a chanlyniadau canser.

Trafododd Jemima Reynolds (Trekstock) effeithiau anghydraddoldebau canser ar bobl ifanc gan dynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau lleol i wella iechyd a lles gydag ymarfer corff yn agwedd hollbwysig.

Siaradodd Tom Crosby (Felindre) am y system ganser yng Nghymru a’r system gofal iechyd fel y gwaethaf y bu erioed a sut mae Cymru’n wynebu’r heriau mwyaf erioed. Trafododd bwysigrwydd yr ymchwiliad o ran canolbwyntio nid yn unig ar wasanaethau iechyd a chanser ond hefyd sut y dylai archwilio anghydraddoldeb mewn canlyniadau mewn rhanbarthau o Gymru. Dywedodd y gall canlyniadau amrywio’n sylweddol yn aml mewn meysydd sydd ond ychydig filltiroedd oddi wrth ei gilydd.

Cyfeiriodd Jenny Bishop (Unique) at stigma a’r rhwystrau sy’n wynebu LGBTQI+, grwpiau lleiafrifoedd ethnig, anabl, niwroamrywiol ynghyd â’r gymuned deithiol. Mae allgáu mewn cymdeithas yn cyd-fynd ag allgáu o ofal iechyd.

Ategodd David Rees y pwynt hwn gan ddweud ei bod yn bwysig trafod hynny ac edrych arno o fewn yr ymchwiliad.

Sylwadau i gloi

Diolchodd David Rees i bawb am fod yn bresennol ac anogodd yr aelodau i drafod yr ymchwiliad ymhellach gyda’u cydweithwyr yn y Senedd.